Y Salmau 125:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Y mae'r rhai sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD fel Mynydd Seion,na ellir ei symud, ond sy'n aros hyd byth.

2. Fel y mae'r mynyddoedd o amgylch Jerwsalem,felly y mae'r ARGLWYDD o amgylch ei bobl yn awr a hyd byth.

3. Ni chaiff teyrnwialen y drygionus orffwysar y tir sy'n rhan i'r rhai cyfiawn,rhag i'r cyfiawn estyn eu llaw at anghyfiawnder.

Y Salmau 125