5. “Oherwydd anrhaith yr anghenus a chri'r tlawd,codaf yn awr,” meddai'r ARGLWYDD,“rhoddaf iddo'r diogelwch yr hiraetha amdano.”
6. Y mae geiriau'r ARGLWYDD yn eiriau pur:arian wedi ei goethi mewn ffwrnais,aur wedi ei buro seithwaith.
7. Tithau, ARGLWYDD, cadw ni,gwared ni am byth oddi wrth y genhedlaeth hon,
8. am fod y drygionus yn prowla ar bob llaw,a llygredd yn uchaf ymysg pobl.