Y Salmau 119:95-100 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

95. Y mae'r drygionus yn gwylio amdanaf i'm dinistrio,ond fe ystyriaf fi dy farnedigaethau.

96. Gwelaf fod popeth yn dod i ben,ond nid oes terfyn i'th orchymyn di.

97. O fel yr wyf yn caru dy gyfraith!Hi yw fy myfyrdod drwy'r dydd.

98. Y mae dy orchymyn yn fy ngwneud yn ddoethach na'm gelynion,oherwydd y mae gyda mi bob amser.

99. Yr wyf yn fwy deallus na'm holl athrawon,oherwydd bod dy farnedigaethau'n fyfyrdod i mi.

100. Yr wyf yn deall yn well na'r rhai hen,oherwydd imi ufuddhau i'th ofynion.

Y Salmau 119