Y Salmau 119:87-92 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

87. Bu ond y dim iddynt fy nifetha oddi ar y ddaear,ond eto ni throis fy nghefn ar dy ofynion.

88. Yn ôl dy gariad adfywia fi,ac fe gadwaf farnedigaethau dy enau.

89. Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol,wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd.

90. Y mae dy ffyddlondeb hyd genhedlaeth a chenhedlaeth;seiliaist y ddaear, ac y mae'n sefyll.

91. Yn ôl dy ordeiniadau y maent yn sefyll hyd heddiw,oherwydd gweision i ti yw'r cyfan.

92. Oni bai i'th gyfraith fod yn hyfrydwch i mi,byddai wedi darfod amdanaf yn fy adfyd;

Y Salmau 119