Y Salmau 119:85-89 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

85. Y mae gwŷr trahaus, rhai sy'n anwybyddu dy gyfraith,wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.

86. Y mae dy holl orchmynion yn sicr;pan fyddant yn fy erlid â chelwydd, cynorthwya fi.

87. Bu ond y dim iddynt fy nifetha oddi ar y ddaear,ond eto ni throis fy nghefn ar dy ofynion.

88. Yn ôl dy gariad adfywia fi,ac fe gadwaf farnedigaethau dy enau.

89. Y mae dy air, O ARGLWYDD, yn dragwyddol,wedi ei osod yn sefydlog yn y nefoedd.

Y Salmau 119