Y Salmau 119:80-85 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

80. Bydded fy nghalon bob amser yn dy ddeddfau,rhag imi gael fy nghywilyddio.

81. Y mae fy enaid yn dyheu am dy iachawdwriaeth,ac yn gobeithio yn dy air;

82. y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy addewid;dywedaf, “Pa bryd y byddi'n fy nghysuro?”

83. Er imi grebachu fel costrel groen mewn mwg,eto nid anghofiaf dy ddeddfau.

84. Am ba hyd y disgwyl dy wascyn iti roi barn ar fy erlidwyr?

85. Y mae gwŷr trahaus, rhai sy'n anwybyddu dy gyfraith,wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.

Y Salmau 119