Y Salmau 119:48-57 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

48. Parchaf dy orchmynionam fy mod yn eu caru,a myfyriaf ar dy ddeddfau.

49. Cofia dy air i'th was,y gair y gwnaethost imi ymddiried ynddo.

50. Hyn fu fy nghysur mewn adfyd,fod dy addewid di yn fy adfywio.

51. Y mae'r trahaus yn fy ngwawdio o hyd,ond ni throis oddi wrth dy gyfraith.

52. Yr wyf yn cofio dy farnau erioed,ac yn cael cysur ynddynt, O ARGLWYDD.

53. Cydia digofaint ynof oherwydd y rhai drygionussy'n gwrthod dy gyfraith.

54. Daeth dy ddeddfau'n gân i miymhle bynnag y bûm yn byw.

55. Yr wyf yn cofio dy enw yn y nos, O ARGLWYDD,ac fe gadwaf dy gyfraith.

56. Hyn sydd wir amdanaf,imi ufuddhau i'th ofynion.

57. Ti yw fy rhan, O ARGLWYDD;addewais gadw dy air.

Y Salmau 119