Y Salmau 119:43-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

43. Paid â chymryd gair y gwirionedd o'm genau,oherwydd fe obeithiais yn dy farnau.

44. Cadwaf dy gyfraith bob amser,hyd byth bythoedd.

45. Rhodiaf oddi amgylch yn rhydd,oherwydd ceisiais dy ofynion.

46. Siaradaf am dy farnedigaethau gerbron brenhinoedd,ac ni fydd arnaf gywilydd;

Y Salmau 119