Y Salmau 119:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. Y mae fy enaid yn anniddig gan ofid,cryfha fi yn ôl dy air.

29. Gosod ffordd twyll ymhell oddi wrthyf,a rho imi ras dy gyfraith.

30. Dewisais ffordd ffyddlondeb,a gosod dy farnau o'm blaen.

31. Glynais wrth dy farnedigaethau.O ARGLWYDD, paid â'm cywilyddio.

Y Salmau 119