Y Salmau 119:159-164 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

159. Gwêl fel yr wyf yn caru dy ofynion;O ARGLWYDD, adfywia fi yn ôl dy gariad.

160. Hanfod dy air yw gwirionedd,ac y mae dy holl farnau cyfiawn yn dragwyddol.

161. Y mae tywysogion yn fy erlid yn ddiachos,ond dy air di yw arswyd fy nghalon.

162. Yr wyf yn llawenhau o achos dy addewid,fel un sy'n cael ysbail fawr.

163. Yr wyf yn casáu ac yn ffieiddio twyll,ond yn caru dy gyfraith di.

164. Seithwaith y dydd yr wyf yn dy folioherwydd dy farnau cyfiawn.

Y Salmau 119