Y Salmau 119:116-123 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

116. Cynnal fi yn ôl dy addewid, fel y byddaf fyw,ac na chywilyddier fi yn fy hyder.

117. Dal fi i fyny, fel y caf waredigaeth,imi barchu dy ddeddfau yn wastad.

118. Yr wyt yn gwrthod pawb sy'n gwyro oddi wrth dy ddeddfau,oherwydd mae eu twyll yn ofer.

119. Yn sothach yr ystyri holl rai drygionus y ddaear;am hynny yr wyf yn caru dy farnedigaethau.

120. Y mae fy nghnawd yn crynu gan dy arswyd,ac yr wyf yn ofni dy farnau.

121. Gwneuthum farn a chyfiawnder;paid â'm gadael i'm gorthrymwyr.

122. Bydd yn feichiau er lles dy was;paid â gadael i'r trahaus fy ngorthrymu.

123. Y mae fy llygaid yn pylu wrth ddisgwyl am dy iachawdwriaeth,ac am dy addewid o fuddugoliaeth.

Y Salmau 119