Y Salmau 119:112-117 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

112. Yr wyf wedi gosod fy mryd ar ufuddhau i'th ddeddfau;y mae eu gwobr yn dragwyddol.

113. Yr wyf yn casáu rhai anwadal,ond yn caru dy gyfraith.

114. Ti yw fy lloches a'm tarian;yr wyf yn gobeithio yn dy air.

115. Trowch ymaith oddi wrthyf, chwi rai drwg,er mwyn imi gadw gorchmynion fy Nuw.

116. Cynnal fi yn ôl dy addewid, fel y byddaf fyw,ac na chywilyddier fi yn fy hyder.

117. Dal fi i fyny, fel y caf waredigaeth,imi barchu dy ddeddfau yn wastad.

Y Salmau 119