Y Salmau 118:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDDnag ymddiried mewn tywysogion.

10. Daeth yr holl genhedloedd i'm hamgylchu;yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.

11. Daethant i'm hamgylchu ar bob tu;yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.

12. Daethant i'm hamgylchu fel gwenyn,a llosgi fel tân mewn drain;yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.

13. Gwthiwyd fi'n galed nes fy mod ar syrthio,ond cynorthwyodd yr ARGLWYDD fi.

14. Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân,ac ef yw'r un a'm hachubodd.

Y Salmau 118