Y Salmau 108:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw;fe ganaf, a rhoi mawl.Deffro, fy enaid.

2. Deffro di, nabl a thelyn.Fe ddeffroaf ar doriad gwawr.

3. Rhof ddiolch i ti, O ARGLWYDD, ymysg y bobloedd,a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd,

4. oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd,a'th wirionedd hyd y cymylau.

5. Dyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw,a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.

6. Er mwyn gwaredu dy anwyliaid,achub รข'th ddeheulaw, ac ateb ni.

Y Salmau 108