Y Salmau 107:36-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

36. Gwna i'r newynog fyw yno,a sefydlant ddinas i fyw ynddi;

37. heuant feysydd a phlannu gwinwydd,a chânt gnydau toreithiog.

38. Bydd ef yn eu bendithio ac yn eu hamlhau,ac ni fydd yn gadael i'w gwartheg leihau.

39. Pan fyddant yn lleihau ac wedi eu darostwngtrwy orthrwm, helbul a gofid,

40. bydd ef yn tywallt gwarth ar dywysogion,ac yn peri iddynt grwydro trwy'r anialwch diarffordd.

Y Salmau 107