Y Salmau 107:28-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. Yna gwaeddasant ar yr ARGLWYDD yn eu cyfyngder,a gwaredodd ef hwy o'u hadfyd;

29. gwnaeth i'r storm dawelu,ac aeth y tonnau'n ddistaw;

30. yr oeddent yn llawen am iddi lonyddu,ac arweiniodd hwy i'r hafan a ddymunent.

31. Bydded iddynt ddiolch i'r ARGLWYDD am ei gariad,ac am ei ryfeddodau i ddynolryw.

32. Bydded iddynt ei ddyrchafu yng nghynulleidfa'r bobl,a'i foliannu yng nghyngor yr henuriaid.

Y Salmau 107