Y Salmau 107:22-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Bydded iddynt ddod ag offrymau diolch,a dweud am ei weithredoedd mewn gorfoledd.

23. Aeth rhai i'r môr mewn llongau,a gwneud eu gorchwylion ar ddyfroedd mawr;

24. gwelsant hwy weithredoedd yr ARGLWYDD,a'i ryfeddodau yn y dyfnder.

25. Pan lefarai ef, deuai gwynt stormus,a pheri i'r tonnau godi'n uchel.

26. Cawsant eu codi i'r nefoedd a'u bwrw i'r dyfnder,a phallodd eu dewrder yn y trybini;

Y Salmau 107