Y Salmau 106:27-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

27. ac yn gwasgaru eu disgynyddion i blith y cenhedloedd,a'u chwalu trwy'r gwledydd.

28. Yna aethant i gyfathrach â Baal-peor,a bwyta ebyrth y meirw;

29. yr oeddent wedi cythruddo'r ARGLWYDD â'u gweithredoedd,a thorrodd pla allan yn eu mysg.

30. Ond cododd Phinees a'u barnu,ac ataliwyd y pla.

31. A chyfrifwyd hyn yn gyfiawnder iddodros y cenedlaethau am byth.

32. Bu iddynt gythruddo'r Arglwydd hefyd wrth ddyfroedd Meriba,a bu'n ddrwg ar Moses o'u plegid,

33. oherwydd gwnaethant ei ysbryd yn chwerw,ac fe lefarodd yntau yn fyrbwyll.

Y Salmau 106