Y Pregethwr 9:4-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Y mae gobaith i'r un a gyfrifir ymysg y byw; oherwydd y mae ci byw yn well na llew marw.

5. Y mae'r byw yn gwybod y byddant farw, ond nid yw'r meirw yn gwybod dim; nid oes bellach wobr iddynt, oherwydd fe ddiflanna'r cof amdanynt.

6. Yn wir y mae eu cariad, a'u casineb a'u cenfigen eisoes wedi darfod, a bellach nid oes iddynt ran yn yr holl bethau a ddigwydd dan yr haul.

7. Dos, bwyta dy fwyd mewn llawenydd, ac yf dy win รข chalon lawen, oherwydd y mae Duw eisoes yn fodlon ar dy weithredoedd.

8. Gofala fod gennyt ddillad gwyn bob amser, a chofia roi olew ar dy ben.

9. Mwynha fywyd gyda'r wraig yr wyt yn ei charu, a hynny yn ystod holl ddyddiau dy fywyd gwag a roddodd ef iti dan yr haul, oherwydd dyma yw dy dynged mewn bywyd, ac yn y llafur a gyflawni dan yr haul.

Y Pregethwr 9