Y Pregethwr 7:8-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Y mae diwedd peth yn well na'i ddechrau,ac amynedd yn well nag ymffrost.

9. Paid â rhuthro i ddangos dig,oherwydd ym mynwes ffyliaid y mae dig yn aros.

10. Paid â dweud, “Pam y mae'r dyddiau a fu yn well na'r rhai hyn?”Oherwydd ni ddangosir doethineb wrth ofyn hyn.

11. Y mae cael doethineb cystal ag etifeddiaeth,ac yn fantais i'r rhai sy'n gweld yr haul.

12. Y mae doethineb yn gystal amddiffyn ag arian;mantais deall yw bod doethineb yn rhoi bywyd i'w pherchennog.

13. Ystyria'r hyn a wnaeth Duw;pwy all unioni'r hyn a wyrodd ef?

Y Pregethwr 7