Y Pregethwr 3:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. amser i daflu cerrig, ac amser i'w casglu,amser i gofleidio, ac amser i ymatal;

6. amser i geisio, ac amser i golli,amser i gadw, ac amser i daflu ymaith;

7. amser i rwygo, ac amser i drwsio,amser i dewi, ac amser i siarad;

8. amser i garu, ac amser i gasáu,amser i ryfel, ac amser i heddwch.

9. Pa elw a gaiff y gweithiwr wrth lafurio?

10. Gwelais y dasg a roddodd Duw i bobl i'w chyflawni.

Y Pregethwr 3