Y Pregethwr 3:20-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Y maent i gyd yn mynd i'r un lle; daethant i gyd o'r llwch, ac i'r llwch y maent yn dychwelyd.

21. Pwy sy'n gwybod a yw ysbryd dynol yn mynd i fyny ac ysbryd anifail yn mynd i lawr i'r ddaear?

22. Yna gwelais nad oes dim yn well i rywun na'i fwynhau ei hun yn ei waith, oherwydd dyna yw ei dynged. Pwy all wneud iddo weld beth fydd ar ei ôl?

Y Pregethwr 3