Y Pregethwr 2:18-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Yr oeddwn yn casáu'r holl lafur a gyflawnais dan yr haul, gan y bydd yn rhaid imi ei adael i'r un a ddaw ar fy ôl;

19. a phwy sy'n gwybod ai doeth ynteu ffôl fydd hwnnw? Ac eto, ef fydd yn rheoli'r holl lafur a gyflawnais mewn doethineb dan yr haul. Y mae hyn hefyd yn wagedd.

20. Yna euthum i anobeithio'n llwyr am yr holl lafur a gyflawnais dan yr haul.

21. Oherwydd y mae'r sawl a lafuriodd yn ddoeth a deallus a chyda medr yn gadael ei eiddo i un na lafuriodd amdano. Y mae hyn hefyd yn wagedd ac yn flinder mawr.

22. Beth a gaiff neb am yr holl lafur a'r ymdrech a gyflawnodd dan yr haul?

23. Oherwydd y mae ei holl ddyddiau yn ofidus, a'i orchwyl yn boenus; a hyd yn oed yn y nos nid oes gorffwys i'w feddwl. Y mae hyn hefyd yn wagedd.

24. Nid oes dim yn well i neb na bwyta ac yfed a chael mwynhad o'i lafur. Yn wir gwelais fod hyn yn dod oddi wrth Dduw;

25. oherwydd pwy all fwyta a chael mwynhad hebddo ef?

Y Pregethwr 2