Sechareia 8:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. A daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,

2. “Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: ‘Yr wyf yn eiddigeddus dros Seion, yn eiddigeddus iawn; â llid mawr yr wyf yn eiddigeddus drosti.’

3. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Dychwelaf i Seion a thrigo yng nghanol Jerwsalem, a gelwir Jerwsalem, Y Ddinas Ffyddlon, a mynydd ARGLWYDD y Lluoedd, Y Mynydd Sanctaidd.’

Sechareia 8