Sechareia 7:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. ‘Nid oeddent hwy'n gwrando pan oeddwn i'n galw; yn yr un modd nid oeddwn innau'n gwrando pan oeddent hwy'n galw,’ medd ARGLWYDD y Lluoedd,

14. ‘a gwasgerais hwy ymhlith yr holl genhedloedd nad oeddent yn eu hadnabod, a gadael eu tir yn ddiffaith ar eu hôl, heb neb yn mynd a dod yno. Felly y gwnaethant eu tir dymunol yn ddiffeithwch.’ ”

Sechareia 7