Sechareia 6:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Ef fydd yn adeiladu teml yr ARGLWYDD ac yn dwyn anrhydedd ac yn eistedd i deyrnasu ar ei orsedd; bydd offeiriad yn ymyl ei orsedd a chytundeb perffaith rhyngddynt.’

14. A bydd y goron yn nheml yr ARGLWYDD yn goffâd i Haldai, Tobeia, Jedaia a Joseia fab Seffaneia.

15. Daw rhai o bell i adeiladu teml yr ARGLWYDD, a chewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd i atoch. A bydd hyn os gwrandewch yn astud ar lais yr ARGLWYDD eich Duw.”

Sechareia 6