8. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud,
9. “Dwylo Sorobabel sy'n sylfaenu'r tŷ hwn, a'i ddwylo ef a'i gorffen”; a chewch wybod mai ARGLWYDD y Lluoedd a'm hanfonodd i atoch.
10. “Pwy bynnag a ddirmygodd ddydd y pethau bychain, caiff lawenhau wrth weld carreg y gwahanu yn llaw Sorobabel.“Y saith hyn yw llygaid yr ARGLWYDD sy'n tramwyo dros yr holl ddaear.”
11. Yna gofynnais iddo, “Beth yw'r ddwy olewydden hyn ar dde a chwith y canhwyllbren?”