Sechareia 11:9-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Yna dywedais, “Ni fugeiliaf chwi; y rhai sydd i farw, bydded iddynt farw, a'r rhai sydd i'w dinistrio, bydded iddynt fynd i ddinistr; a bydded i'r rhai sy'n weddill fwyta cnawd ei gilydd.”

10. A chymerais fy ffon Trugaredd a'i thorri, gan ddiddymu'r cyfamod a wneuthum â'r holl bobloedd.

11. Fe'i diddymwyd y dydd hwnnw, a gwyddai'r marchnatwyr a edrychai arnaf mai gair yr ARGLWYDD oedd hyn.

12. A dywedais wrthynt, “Os yw'n dderbyniol gennych, rhowch imi fy nghyflog; os nad yw, peidiwch.” A bu iddynt hwythau bwyso fy nghyflog, deg darn ar hugain o arian.

13. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Bwrw ef i'r drysorfa—y pris teg a osodwyd arnaf, i'm troi ymaith!” A chymerais y deg darn ar hugain a'u bwrw i'r drysorfa yn nhŷ'r ARGLWYDD.

14. Yna torrais yr ail ffon, Undeb, gan ddiddymu'r frawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.

Sechareia 11