Ruth 2:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Yna gofynnodd Boas i'w was oedd yn gofalu am y medelwyr, “Geneth pwy yw hon?”

6. Atebodd y gwas, “Geneth o Moab ydyw; hi a ddaeth yn ôl gyda Naomi o wlad Moab.

7. Gofynnodd am ganiatâd i loffa a hel rhwng yr ysgubau ar ôl y medelwyr. Fe ddaeth, ac y mae wedi bod ar ei thraed o'r bore bach hyd yn awr, heb orffwys o gwbl.”

Ruth 2