Rhufeiniaid 10:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. “neu, ‘Pwy a ddisgyn i'r dyfnder?’ ”—hynny yw, i ddwyn Crist i fyny oddi wrth y meirw.

8. Ond beth mae'n ei ddweud?“Y mae'r gair yn agos atat,yn dy enau ac yn dy galon.”A dyma'r gair yr ydym ni yn ei bregethu, gair ffydd, sef:

9. “Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub.”

10. Oherwydd credu â'r galon sy'n esgor ar gyfiawnder, a chyffesu â'r genau sy'n esgor ar iachawdwriaeth.

Rhufeiniaid 10