Philipiaid 2:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Felly, os oes gennych yng Nghrist unrhyw symbyliad, unrhyw apêl o du cariad, unrhyw gymdeithas trwy'r Ysbryd, os oes unrhyw gynhesrwydd a thosturi,

2. cyflawnwch fy llawenydd trwy fod o'r un meddwl, a'r un cariad gennych at eich gilydd, yn unfryd ac yn unfarn.

Philipiaid 2