Numeri 36:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Gwnaeth merched Seloffehad fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses,

11. ac fe briododd Mala, Tirsa, Hogla, Milca a Noa, merched Seloffehad, â meibion brodyr eu tad.

12. Felly daethant yn wragedd i wŷr o dylwyth meibion Manasse fab Joseff, ac arhosodd eu hetifeddiaeth gyda thylwyth eu tad.

13. Dyma'r deddfau a'r gorchmynion a roddodd yr ARGLWYDD trwy Moses i bobl Israel yng ngwastadedd Moab, gyferbyn â Jericho ger yr Iorddonen.

Numeri 36