Numeri 27:17-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. i'w harwain a'u tywys wrth iddynt fynd a dod, rhag i gynulliad yr ARGLWYDD fod fel defaid heb fugail.”

18. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Cymer Josua fab Nun, dyn sydd â'r ysbryd ynddo, a gosod dy law arno;

19. pâr iddo sefyll o flaen Eleasar yr offeiriad ac o flaen yr holl gynulliad, a rho iddo siars yn eu gŵydd hwy.

20. Rho iddo gyfran o'th awdurdod di, er mwyn i holl gynulliad pobl Israel ufuddhau iddo.

Numeri 27