Numeri 26:62-65 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

62. Rhestrwyd dau ddeg tair o filoedd ohonynt, sef pob gwryw mis oed a throsodd; ni restrwyd hwy ymhlith pobl Israel, oherwydd nid oedd ganddynt hwy etifeddiaeth ymhlith yr Israeliaid.

63. Dyma'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Eleasar yr offeiriad yng ngwastadedd Moab, gyferbyn รข Jericho ger yr Iorddonen.

64. Nid oedd ymhlith y rhain yr un o'r Israeliaid a restrwyd gan Moses ac Aaron yr offeiriad yn anialwch Sinai,

65. oherwydd yr oedd yr ARGLWYDD wedi dweud y byddent hwy farw yn yr anialwch. Ni adawyd neb ohonynt, heblaw Caleb fab Jeffunne, a Josua fab Nun.

Numeri 26