Numeri 26:49-54 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

49. o Jeser, teulu'r Jeseriaid; o Silem, teulu'r Silemiaid.

50. Dyma dylwyth Nafftali yn ôl eu teuluoedd, cyfanswm o bedwar deg pump o filoedd a phedwar cant.

51. Dyma gyfanswm yr Israeliaid: chwe chant ac un o filoedd saith gant a thri deg.

52. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

53. “I'r rhain, yn ôl nifer yr enwau, y rhennir y tir yn etifeddiaeth.

54. I'r llwythau mawr rho etifeddiaeth fawr, ac i'r llwythau bychain rho etifeddiaeth fechan; rhanna'r etifeddiaeth i bob llwyth yn ôl y nifer sydd ynddo.

Numeri 26