Numeri 26:20-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Meibion Jwda yn ôl eu teuluoedd oedd: o Sela, teulu'r Selaniaid; o Peres, teulu'r Peresiaid; o Sera, teulu'r Serahiaid.

21. Meibion Peres oedd: o Hesron, teulu'r Hesroniaid; o Hamul, teulu'r Hamuliaid.

22. Dyma deuluoedd Jwda, cyfanswm o saith deg chwech o filoedd a phum cant.

23. Meibion Issachar yn ôl eu teuluoedd: o Tola, teulu'r Tolaiaid; o Pua, teulu'r Puhiaid;

24. o Jasub, teulu'r Jasubiaid; o Simron, teulu'r Simroniaid.

25. Dyma deuluoedd Issachar, cyfanswm o chwe deg pedair o filoedd a thri chant.

Numeri 26