30. Dywed wrthynt hefyd, ‘Wedi ichwi offrymu'r gorau ohono, cyfrifir y gweddill i'r Lefiaid fel petai'n gynnyrch y llawr dyrnu a'r gwinwryf;
31. cewch chwi a'ch teulu ei fwyta mewn unrhyw le, oherwydd dyma eich tâl am eich gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.
32. Wedi ichwi offrymu'r gorau ohono, ni fyddwch yn atebol am unrhyw bechod o'i herwydd, ac ni fyddwch yn halogi pethau cysegredig pobl Israel. Felly, ni fyddwch farw.’ ”