1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Aaron, “Byddi di, dy feibion a'th deulu yn atebol am y troseddau a wneir yn erbyn y cysegr, ond ti a'th feibion yn unig fydd yn atebol am y troseddau a wneir yn erbyn yr offeiriadaeth.
2. Gad i'th frodyr o dylwyth Lefi, sef tylwyth dy dad, ymuno â thi a gweini arnat pan fyddi di a'th feibion o flaen pabell y dystiolaeth.