Numeri 11:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr oedd y bobl yn cwyno am eu caledi yng nghlyw'r ARGLWYDD, a phan glywodd ef hwy, enynnodd ei lid, a llosgodd tân yr ARGLWYDD yn eu plith gan ddifa un cwr o'r gwersyll.

2. Galwodd y bobl ar Moses, a phan weddïodd ef ar yr ARGLWYDD, fe ddiffoddodd y tân.

3. Galwodd enw'r lle hwnnw yn Tabera, am i dân yr ARGLWYDD losgi yn eu plith.

4. Dechreuodd y lliaws cymysg oedd yn eu mysg chwantu bwyd, ac wylodd pobl Israel eto, a dweud, “Pwy a rydd inni gig i'w fwyta?

Numeri 11