Numeri 10:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses,

2. “Gwna ddau drwmped o arian gyr, a defnyddia hwy i alw'r cynulliad ynghyd, er mwyn i'r gwersyll gychwyn ar ei daith.

3. Os cenir y ddau drwmped, bydd yr holl gynulliad yn ymgasglu atat wrth ddrws pabell y cyfarfod;

4. ond os un ohonynt a genir, yna yr arweinwyr yn unig, sef penaethiaid llwythau Israel, fydd yn ymgasglu atat.

Numeri 10