Nehemeia 7:57-63 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

57. Disgynyddion gweision Solomon: teuluoedd Sotai, Soffereth, Perida,

58. Jala, Darcon, Gidel,

59. Seffateia, Hattil, Pochereth o Sebaim, ac Amon.

60. Cyfanswm gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon oedd tri chant naw deg a dau.

61. Daeth y rhai canlynol i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adon ac Immer, ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras:

62. teuluoedd Delaia, Tobeia a Necoda, chwe chant pedwar deg a dau.

63. Ac o blith yr offeiriaid: teuluoedd Hobaia, Cos a'r Barsilai a briododd un o ferched Barsilai o Gilead a chymryd ei enw.

Nehemeia 7