Nehemeia 3:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna dechreuodd Eliasib yr archoffeiriad a'i gyd-offeiriaid ailgodi Porth y Defaid; gosodasant ei gilbyst a rhoi ei ddorau yn eu lle, ac atgyweirio hyd at Dŵr y Cant a Thŵr Hananel.

2. Adeiladodd gwŷr Jericho yn ei ymyl, a Sacur fab Imri yn eu hymyl hwythau.

Nehemeia 3