Nehemeia 1:9-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. ond os dychwelwch ataf a chadw fy ngorchmynion a'u gwneud, byddaf yn casglu'r rhai a wasgarwyd hyd gyrion byd, ac yn eu cyrchu i'r lle a ddewisais i roi fy enw yno.’

10. Dy weision a'th bobl di ydynt—rhai a waredaist â'th allu mawr ac â'th law nerthol.

11. O ARGLWYDD, gwrando ar weddi dy was a'th weision sy'n ymhyfrydu mewn parchu dy enw, a rho lwyddiant i'th was heddiw a phâr iddo gael trugaredd gerbron y gŵr hwn.”Yr oeddwn i yn drulliad i'r brenin.

Nehemeia 1