Mathew 8:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Daeth un o'r ysgrifenyddion a dweud wrtho, “Athro, canlynaf di lle bynnag yr ei.”

20. Meddai Iesu wrtho, “Y mae gan y llwynogod ffeuau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y Dyn nid oes lle i roi ei ben i lawr.”

21. Dywedodd un arall o'i ddisgyblion wrtho, “Arglwydd, caniatâ imi yn gyntaf fynd a chladdu fy nhad.”

22. Ond meddai Iesu wrtho, “Canlyn fi, a gad i'r meirw gladdu eu meirw eu hunain.”

23. Aeth Iesu i mewn i'r cwch, a chanlynodd ei ddisgyblion ef.

Mathew 8