Mathew 4:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yna arweiniwyd Iesu i'r anialwch gan yr Ysbryd, i gael ei demtio gan y diafol.

2. Wedi iddo ymprydio am ddeugain dydd a deugain nos daeth arno eisiau bwyd.

3. A daeth y temtiwr a dweud wrtho, “Os Mab Duw wyt ti, dywed wrth y cerrig hyn am droi'n fara.”

4. Ond atebodd Iesu ef, “Y mae'n ysgrifenedig:“ ‘Nid ar fara yn unig y bydd rhywun fyw,ond ar bob gair sy'n dod allano enau Duw.’ ”

5. Yna cymerodd y diafol ef i'r ddinas sanctaidd, a'i osod ar dŵr uchaf y deml,

Mathew 4