Mathew 28:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ar ôl y Saboth, a dydd cyntaf yr wythnos ar wawrio, daeth Mair Magdalen a'r Fair arall i edrych ar y bedd.

2. A bu daeargryn mawr; daeth angel yr Arglwydd i lawr o'r nef, ac aeth at y maen a'i dreiglo i ffwrdd ac eistedd arno.

3. Yr oedd ei wedd fel mellten a'i wisg yn wyn fel eira.

4. Yn eu dychryn o'i weld, crynodd y gwarchodwyr, ac aethant fel rhai marw.

Mathew 28