Mathew 27:28-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

28. Wedi diosg ei ddillad, rhoesant glogyn ysgarlad amdano;

29. plethasant goron o ddrain a'i gosod ar ei ben, a gwialen yn ei law dde. Aethant ar eu gliniau o'i flaen a'i watwar: “Henffych well, Frenin yr Iddewon!”

30. Poerasant arno, a chymryd y wialen a'i guro ar ei ben.

31. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y clogyn oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun, a mynd ag ef ymaith i'w groeshoelio.

32. Wrth fynd allan daethant ar draws dyn o Cyrene o'r enw Simon, a gorfodi hwnnw i gario ei groes ef.

Mathew 27