Mathew 23:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Ond peidiwch chwi â chymryd eich galw yn ‘Rabbi’, oherwydd un athro sydd gennych, a chymrodyr ydych chwi i gyd.

9. A pheidiwch â galw neb yn dad ichwi ar y ddaear, oherwydd un tad sydd gennych chwi, sef eich Tad nefol.

10. A pheidiwch â chymryd eich galw'n arweinwyr chwaith, oherwydd un arweinydd sydd gennych, sef y Meseia.

11. Rhaid i'r un mwyaf ohonoch fod yn was i chwi.

Mathew 23