Mathew 21:44-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

44. A'r sawl sy'n syrthio ar y maen hwn, fe'i dryllir; pwy bynnag y syrth y maen arno, fe'i maluria.”

45. Pan glywodd y prif offeiriaid a'r Phariseaid ei ddamhegion, gwyddent mai amdanynt hwy yr oedd yn sôn.

46. Yr oeddent yn ceisio ei ddal, ond yr oedd arnynt ofn y tyrfaoedd, am eu bod hwy yn ei gyfrif ef yn broffwyd.

Mathew 21