Mathew 20:9-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Daeth y rhai a gyflogwyd tua phump o'r gloch, a derbyniasant un darn arian yr un.

10. A phan ddaeth y rhai a gyflogwyd gyntaf, tybiasant y caent fwy, ond un darn arian yr un a gawsant hwythau hefyd.

11. Ac wedi eu cael dechreusant rwgnach yn erbyn y perchen tŷ

12. gan ddweud, ‘Dim ond un awr y gweithiodd y rhai diwethaf yma, a gwnaethost hwy'n gyfartal â ni, sydd wedi llafurio drwy'r dydd yn y gwres tanbaid.’

Mathew 20